0 Meanings
Add Yours
Follow
Share
Q&A

Allwedd Lyrics

Mae na allwedd i agor y drws
Mae na allwedd i agor bocsus
Mae na allweddi mawr ac allweddi bach
Mae na allwedd sy'n cadw dy arian yn saff

Mae na allwedd i danio'r car
Mae na allwedd i danio'r cariad
Mae na allwedd o hyd ar goll
Ar yr eiliad pan ti'n hwyr ac ar fin colli'r plot

Ond ble mae'r allwedd, ble mae'r allwedd
i gloi fy hun yn dy freichia di?

Mae na allwedd i gloi fy nrws
Mae na allwedd i gloi y bocsus
Mae na allwedd i 'nghloi i yn y carchar
Ac allwedd i'm rhyddhau pan ddaw fy amser

A dwi'n chwilio am yr allwedd o hyd
Allwedd i gadw trysor drud
Mae na allweddi i'w cael - pob siap a phob llun
A dal i chwilio am yr allwedd 'dwi i gloi fy hun

Ble mae'r allwedd, ble mae'r allwedd
i gloi fy hun yn dy freichia di?
0 Meanings

Add your song meanings, interpretations, facts, memories & more to the community.

Add your thoughts...
Questions and Answers

Ask specific questions and get answers to unlock more indepth meanings & facts.

Ask a question...